Cannoedd o rolau gwirfoddol i’w llenwi yng Nghwpan y Byd Digartref Caerdydd 2019 – ceisiadau nawr ar agor
Mae Cwpan y Byd Digartref 2019 yn galw ar wirfoddolwyr i ymuno yn y twrnamaint eleni, a fydd yn cael ei gynnal yn lleoliad eiconig Parc Bute yng Nghaerdydd rhwng 27 Gorffennaf a 3 Awst.
Bydd y digwyddiad byd-eang yn cynnwys dros 500 o chwaraewyr yn cynrychioli dros 50 o wledydd, mewn gŵyl bêl-droed sydd wedi’i dylunio i ddefnyddio grym chwaraeon i drawsnewid bywydau pobl sy’n profi digartrefedd ac allgáu cymdeithasol.
Mae’r trefnwyr yn chwilio am dros 250 o ‘Hyrwyddwyr Newid’ – yn debyg i’r ‘Hyrwyddwyr Gemau’ yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 – i ymgymryd ag ystod eang o rolau yn ystod y twrnamaint wyth diwrnod o hyd.
Ymhlith y prif rolau bydd Tywyswyr Timau, a fydd yn cael eu dynodi i un o’r timau fydd yn cymryd rhan yn y twrnamaint. Tywyswyr Timau fydd y pwynt cyswllt cyntaf i dimau sy’n cyrraedd Caerdydd ar gyfer y twrnamaint, a byddant yn cynorthwyo eu tîm dynodedig yn ystod eu harhosiad er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiad mwyaf cadarnhaol posib. Ymhlith y rolau gwirfoddol eraill mae cynorthwywyr gwybodaeth, cynorthwywyr achredu, dyfarnwyr, ffisiotherapyddion a chynorthwywyr cae.
Mae’r trefnwyr yn chwilio am bobl ddigynnwrf, dibynadwy a dymunol sy’n gallu datrys problemau sydd o drawstoriad o’r gymdeithas, ac sydd ag ystod amrywiol o brofiadau bywyd a gwaith er mwyn sicrhau bod y twrnamaint yn llwyddiant. Gan gadw at genhadaeth y twrnamaint o newid bywydau pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd ac allgáu cymdeithasol, bydd nifer o rolau’r twrnamaint yn cael eu blaenoriaethu er mwyn rhoi profiad i bobl sydd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
O ganlyniad i natur ryngwladol y gystadleuaeth, mae gan y trefnwyr ddiddordeb penodol mewn gwirfoddolwyr sydd ag ystod eang o sgiliau iaith, ac anogir siaradwyr Ffrangeg, Sbaeneg, Portiwgaleg a Rwsieg i wirfoddoli. Fodd bynnag, bydd dwsinau o ieithoedd yn cael eu siarad gan y chwaraewyr a’r staff fydd yn bresennol, ac felly mae ystod eang o rolau ieithyddol ar gael. Mae rhestr lawn o’r gwledydd fydd yn cystadlu ar gael yma: https://homelessworldcup.org/cardiff-2019-competing-teams/
Caiff y rhaglen wirfoddoli ei harwain gan Laura Easton, hi oedd Pennaeth Gwirfoddoli Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd yn 2017 a Chwpan y Byd Digartref yn Glasgow yn 2015. Hi yw Rheolwr Gwirfoddoli Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n cydlynu’r gwirfoddolwyr ar ran Cwpan y Byd Digartref Caerdydd 2019. Meddai Laura: “Rydyn ni mor falch o gael agor rhaglen wirfoddoli Cwpan y Byd Digartref Caerdydd 2019 i gynnig ystod o gyfleoedd a fydd yn trawsnewid bywydau’r unigolion sy’n cymryd rhan.
“Gyda chymaint o rolau ar gael, rydyn ni’n croesawu gwirfoddolwyr o bob cefndir. Mae’r twrnamaint yn gydbwysydd gwych i gymaint o bobl. Yn nhwrnameintiau’r gorffennol, rydw i wedi gweld Prif Weithredwyr, athrawon, gweithwyr meddygol a theuluoedd yn torchi llewys ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a oedd yn profi digartrefedd ar y stryd chwe mis ynghynt. Gall cyfleoedd fel hyn wir helpu i ddatblygu iechyd a llesiant, rhwydweithiau cymdeithasol, hyder a sgiliau’r rhai sydd wedi dioddef allgáu cymdeithasol o ryw fath.
“Unwaith byddwch chi’n gwisgo’r crys-T gwirfoddoli, mae pawb yn cael eu trin yn union yr un fath. Mae’n brofiad arbennig iawn.”
Yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi recriwtio Jade Plumley, a oedd yn rhan o dîm menywod Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref 2016, er mwyn helpu i weithredu rhaglen wirfoddoli’r twrnamaint eleni. Meddai’r ferch 23 oed o Drelái:
“Mae fy nhaith gyda Chwpan y Byd Digartref wedi bod yn anhygoel. Pan o’n i’n 19 oed, fe ges i gyfle i gynrychioli fy ngwlad, ac i arwain y tîm fel capten. Does dim amheuaeth bod hyn wedi rhoi pwysau ychwanegol arna i, ond gwthiodd hyn fi i fod y gorau galla i fod. Mae’r twrnamaint ei hun yn rhywbeth rydw i’n edrych yn ôl arno gyda balchder, ac mae ei weld yn dod i Gymru yn freuddwyd.
“Ers teithio i’r Alban i gynrychioli Cymru fel chwaraewr yn nhwrnamaint 2016, rydw i wedi parhau i fod yn rhan o deulu Pêl-droed Stryd Cymru, fel dyfarnwr a gwirfoddolwr. A nawr mae cael gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru mewn capasiti swyddogol yn helpu i gynnal rhaglen wirfoddoli eleni yn rhywbeth rydw i’n falch iawn ohono.
“Rydw i’n annog unrhyw un sy’n gallu ac yn fodlon gwirfoddoli i ymgeisio i fod yn rhan o Gwpan y Byd Digartref eleni yng Nghaerdydd. Rwy’n addo ei fod yn brofiad hollol unigryw.”
Dydd Gwener 7 Mehefin yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gwirfoddoli cyffredinol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Nghwpan y Byd Digartref 2019, ewch i: https://volunteer.fawtrust.wales/find-a-position?ID=4780b2d5-8f74-49ba-a511-d74cb193e69e.
Ar gyfer ymholiadau gwirfoddoli cyffredinol, e-bostiwch: volunteering@faw.co.uk
Cefndir Cwpan y Byd Digartref Caerdydd 2019:
Bydd dros 500 o chwaraewyr yn cynrychioli dros 50 o wledydd yn teithio i Gaerdydd i chwarae yn yr ŵyl bêl-droed wythnos o hyd (Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf – Dydd Sadwrn 3 Awst).
Mae dros filiwn o bobl ledled y byd wedi profi effaith gadarnhaol y twrnamaint a’i raglenni ar eu bywydau ers y twrnamaint cyntaf yn Graz, Awstria yn 2003. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cynhaliwyd y twrnamaint yn Ninas Mecsico (Mecsico), Oslo (Norwy), Glasgow (yr Alban) a Santiago (Chile).
Arweiniwyd cais Cwpan y Byd Digartref Caerdydd 2019 gan yr actor a’r ymgyrchydd o Gymru, Michael Sheen, sy’n chwarae rhan weithgar yn nhrefniadau’r digwyddiad. Gyda digartrefedd ar ei waethaf ers degawdau yn y ddinas, a ledled Cymru a Phrydain, mae’r twrnamaint yn gweithio i greu gwaddol sy’n cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl ymhell ar ôl chwythu’r chwiban olaf. Gan weithio gyda Chymorth Cymru, corff ymbarél y sector digartrefedd, mae’r trefnwyr yn gweithio o dan arweiniad y sector i ddatblygu cyfres o apeliadau i’r llywodraeth, busnesau a’r cyhoedd i wneud newidiadau cadarnhaol i bolisi, cyllid, cyfranogiad a chanfyddiad. Bydd cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i bobl sy’n profi digartrefedd neu allgáu cymdeithasol hefyd ar gael.
Ochr yn ochr â’r pêl-droed bydd rhai o gerddorion gorau Cymru i’w gweld ar lwyfan Gŵyl y Dyn Gwyrdd fydd ar safle’r twrnamaint – sy’n addas i deuluoedd – a bydd cyfres o artistiaid cyffrous yn cael eu cyhoeddi bob bore yn ystod y twrnamaint. Bydd pabell drafod a gynhelir ar y cyd â melin drafod annibynnol Sefydliad Bevan yn cynnig gofod i siaradwyr adnabyddus a’r cyhoedd addysgu ac ymwneud â materion anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, a gweithio tuag at ddatrysiadau arloesol.
Bydd mynediad i Gwpan y Byd Digartref am ddim ac yn agored i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://homelessworldcup.org/ a dilynwch @HomelessWrldCup ar Twitter a @HomelessWorldCup ar Facebook, Instagram a YouTube.
Gellir llwytho lluniau a chlipiau fideo o gystadlaethau Cwpan y Byd Digartref blaenorol i lawr drwy ddefnyddio’r dolenni canlynol:
Ffotograffiaeth – xxx
Clipiau fideo – xxx
Fideo lansio gyda Michael Sheen – xxx
Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â:
Kara.williams@workingword.co.uk
029 20455 182