Croeso Adref Arbennig I Gyn-chwaraewr Sydd Nawr Yn Ddyfarnwr

Hanner ffordd drwy’r twrnamaint y llynedd, profodd y ddyfarnwraig Natalie Handley o Gymru dywydd tra gwahanol – tymheredd o bedair gradd, glaw trwm a mwrllwch trwchus – yn Ninas Mecsico (ie, Mecsico, y wlad drofannol yng nghanol yr Amerig), wrth i’r tymheredd blymio ugain gradd dros nos ar ddiwrnod o dywydd od oedd yn “debycach i fod ‘nôl adre,” chwarddodd. “Do’n i ddim yn mwynhau’r oerfel ddoe.”

A fyddai modd i dywydd annisgwyl ddigwydd eto eleni wrth i’r 17eg twrnamaint gael ei gynnal yn ninas enedigol Natalie yng Nghaerdydd? Beth bynnag fydd y tywydd, does dim amheuaeth ei bod hi’n edrych ymlaen at gyflawni pennod arall yn ei hanes ysbrydoledig o Gwpan y Byd Digartref, a’r tro hwn yn ôl yng Nghymru.

Fodd bynnag, yn ôl yn 2014, ni allai merch wahanol iawn o Gymru ddychmygu y byddai’n chwythu’r chwiban yn Sgwâr eiconig Zocalo yn Ninas Mecsico bedair blynedd yn ddiweddarach.

“Ro’n i’n mynd drwy gyfnod anodd iawn. Roedd fy mhen i ym mhob man. Ro’n i’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth fy mhroblemau ac ro’n i’n yfed, yn hunan-niweidio,” mae’n cofio.

“Roedd merch ro’n i’n ei hadnabod yn chwarae i Bêl-droed Stryd Cymru. Do’n i erioed wedi chwarae o’r blaen – wel, dim ond ychydig o gicio pêl pan o’n i’n iau – ond do’n i erioed wedi chwarae pêl-droed stryd. Felly gofynnodd i mi fynd draw i chwarae ychydig o bêl-droed a, digwydd bod, roedd hi’n ddiwrnod dewis tîm!”

Elusen sy’n helpu pobl sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol yw Pêl-droed Stryd Cymru, sy’n meithrin hyder, hunan-barch, iechyd, a ffitrwydd pobl ac yn cynnig rhyngweithio cymdeithasol drwy bêl-droed. Fodd bynnag, doedd y gêm bêl gron heb gael llawer o le ym mywyd Natalie pan oedd hi’n iau.

“Pan o’n i’n tyfu i fyny, doedd pêl-droed ddim o ddiddordeb i fi,” meddai. “Doedd dim tîm merched yn fy ardal i – a dweud y gwir, ro’n i’n chwarae mwy o rygbi. Dechreuais i fel blaenasgellwr cyn symud i safle’r asgellwr, ond sylweddolais fod rygbi yn fy ngwneud i’n berson gwaeth.

“Mae’n gêm ymosodol ac ro’n i’n troi’n rhy gorfforol, a dim ond eisiau brifo fy hunan neu bobl eraill. Ac nid dyna’r ffordd i fod. Dyna’r adeg roedd fy mhen i ar ei waethaf. Roedd angen i mi gael y teimlad o anafu fy hun er mwyn teimlo fy mod i’n fyw.

“Roedd fy mrawd yn chwarae pêl-droed i dîm lleol – roedden nhw yn Uwch Gynghrair Cymru – felly efallai fy mod yn dilyn ar ei ôl ychydig. Mae e’n meddwl bod hyn yn wych. Dydy e ddim yn chwarae erbyn hyn, felly mae cael rhywun yn y teulu sy’n cymryd rhan ac yn gwneud cystal ag rydw i’n ei wneud yn braf iddo fe weld.”

Yn ôl i 2014, a sut aeth Natalie o strydoedd oer Caerdydd i brifddinas Chile?

“Roedd rhai o’r bobl oedd yn gysylltiedig â Phêl-droed Stryd Cymru yn gwybod am fy mhroblemau ac fe wnaethon nhw fy annog i ddod draw i chwarae gêm,” aeth ymlaen. “Ces i gyfle i ddangos fy sgiliau, dysgu sut i chwarae fformat pêl-droed stryd, a chael fy annog i roi cynnig arni – a chyn pen dim, dechreuodd yr ymarferion ar gyfer Chile!”

Santiago oedd lleoliad deuddegfed Cwpan y Byd Digartref, a deuddeg wythnos yn ddiweddarach cychwynnodd Natalie a’i chyd-chwaraewyr Pêl-droed Stryd Cymru newydd ar y daith 7000 milltir i brifddinas Chile, i gystadlu o flaen torf o 100,000.

“Diolch byth roedd gen i basbort, a chafodd popeth arall ei drefnu gan Bêl-droed Stryd Cymru,” eglura. “Roedd y gwres yn llethol – ac fe wnes i ddioddef o flinder gwres – ond roedd y profiad yn hollol wych. Dyma’r tro cyntaf erioed i mi fod dramor hefyd – roedd y pasbort wedi bod gen i erioed, ond wnes i erioed ei ddefnyddio – a dyma’r tro cyntaf i mi hedfan.

“Roedd hi’n hediad 15 awr, yna rydych chi’n chwarae ac, yn sydyn, rydych chi o dan bwysau aruthrol. Dydych chi ddim yn meddwl am hynny nes i chi godi eich pen o’r cae a gweld yr eisteddle’n llawn, a meddwl…beth ydw i’n neud yn fan hyn?

“Ond dyna oedd profiad gorau fy mywyd i. Dyna oedd dechrau’r adferiad i fi. Yn y bôn, gyda chymorth fy nheulu a Phêl-droed Stryd Cymru, fe wnaeth pêl-droed fi’n unigolyn gwell.”

Mae’r canllawiau i gystadleuwyr yn gwahardd unrhyw ddefnydd o alcohol neu gyffuriau, er fel y dywed Natalie, “Does dim angen i chi yfed, does dim angen i chi hunan-niweidio – mae’r holl bobl yma o’ch cwmpas i’ch cefnogi.

“Ar y pryd, ‘nôl adre, ro’n i’n cael gwasanaeth cwnsela. Roedd fy rhieni yn fy nghefnogi, ac fe roddodd rhyw fath o ffocws ar fy mywyd. Ro’n i’n mynd drwy gyfnod anodd, ond roedd llawer o’r bobl y cwrddais i â nhw yn Chile yn mynd drwy gyfnod llawer mwy garw, ac roedd hynny’n rhoi pethau mewn persbectif.”

Ar ôl dychwelyd o Chile, parhaodd Natalie gyda’i chwnsela a dechreuodd yfed llai.

“Dw i’n cyfaddef mod i wedi cael ychydig o iselder ar ôl dychwelyd o Chile – fel pob twrnamaint – am eich bod wedi mwynhau gymaint. Mae’r holl gamerâu, a’r cyfryngau i gyd yn gofyn i chi am eich stori – rydych chi wedi teimlo fel tipyn o seren. Yna, ar ôl dod adre, rydych chi’n teimlo ychydig bach yn isel am rai wythnosau.

“Mae’r teimlad o iselder pan fyddwch yn dod yn ôl o dwrnamaint, a ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda’ch hun, yn ofnadwy, ond mae angen i chi ddod o hyd i’r pwrpas yn yr hyn ry’ch chi eisiau ei wneud.

“I fi, fe ddechreuodd y tymor pêl-droed unwaith eto, ro’n i’n chwarae mwy o ran, yn chwarae yn y cynghreiriau ac yn cymryd rhan fel rheolwr tîm cynorthwyol. Roedd hynny’n golygu edrych am chwaraewyr posib ar gyfer y flwyddyn nesaf – mae’n rhaid i chi edrych ymlaen mewn bywyd.

“Dw i’n yfed diod o dro i dro y dyddiau hyn,” ychwanega, “ond nid yw’n broblem i mi dim mwy. Does dim rhaid i mi yfed. Fe wnaeth fy hunan-niweidio leihau ac erbyn hyn ‘dw i wedi stopio’n llwyr.”

A hithau’n chwaraewr yn Chile yn 2014 – dim ond unwaith gall chwaraewr gymryd rhan yng Nghwpan y Byd Digartref – aeth Natalie ymlaen i gymryd rôl fel rheolwr cynorthwyol i dîm merched Cymru yn Amsterdam yn 2015 a Glasgow yn 2016. Fodd bynnag, roedd mwy i ddod pan gafodd Natalie wahoddiad gan Keri Harris (Arweinydd Prosiect Pêl-droed Stryd Cymru) i gymryd rhan mewn cwrs dyfarnu sy’n cael ei gynnal yng Nghymru gan Gwpan y Byd Digartref.

“Do’n i ddim yn siŵr os oedd dyfarnu’n addas i fi,” cyfaddefodd, “ond ro’n i’n gwneud ychydig o waith dyfarnu yn ôl adre yn y gynghrair felly ro’n i’n teimlo nad oedd gen i ddim byd i’w golli ac y bydden i’n rhoi cynnig arni. Felly, es i ar y cwrs a fe ddywedon nhw eu bod yn mynd i ddewis un dyfarnwr ac un ddyfarnwraig i fynd i Oslo (lleoliad Cwpan y Byd Digartref yn 2017). Fe ddewison nhw fi a Craig (Denner), felly dyna oedd fy nhaith at ddyfarnu.”

Ar ôl i’w dyletswyddau o chwythu’r chwiban yn Oslo ddod i ben, aeth ymlaen i ddyfarnu twrnamaint pêl-droed stryd yn Awstria, ac yna daeth yr alwad i fynd i Fecsico. O fod yn chwarae i reoli i hyfforddi i ddyfarnu – sut mae hynny wedi ail-ffurfio ei phersbectif o’r gêm?

“Ro’n i’n ei chael hi’n anodd ar y dechrau gan fy mod i’n mwynhau chwarae cymaint, felly roedd bod yn ddyfarnwr yn ei gwneud hi’n anodd mwynhau’r gêm yn yr un ffordd,” cyfaddefodd. “Ro’n i’n gwybod bod fy nyddiau fel rheolwr ar ben gan mai tro pobl eraill oedd hi, felly ro’n i’n meddwl mai dyfarnu oedd y cam nesaf, i gael aros yn rhan o’r gêm. Ar y dechrau roedd hi’n anodd iawn dod i arfer ag e, ond dw i’n wirioneddol yn ei garu erbyn hyn.”

Nid yw’r ffaith mai hi yw’r unig ferch yn nhîm y crysau duon wedi achosi unrhyw broblemau i Natalie ychwaith.

“Dw i’n gallu cael llawn cymaint o sbort â’r dynion. Mae’r ffaith fod gen i frawd yn helpu a dw i’n gallu ymlacio a bod yn fi fy hunan. Nid dim ond dyfarnwr ydw i, dw i’n gyn-chwaraewr felly dw i’n gwybod am yr holl emosiynau sy’n dod o wahanol sefyllfaoedd wrth gymryd rhan yn y twrnamaint.

“Dw i’n mwynhau dyfarnu – yn enwedig pan fydd Gwlad Groeg yn chwarae. Efallai nad oes gobaith ganddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol, ond maen nhw mor angerddol am y gêm. Does dim ots pa mor dda ydyn nhw, maen nhw’n mwynhau. A dw i’n ei fwynhau hyd yn oed mwy wrth weld cymaint maen nhw’n ei fwynhau!”

Rhywbeth arall sy’n llonni Natalie yw gwybod bod ganddi dîm cartref ei hun yn ei chefnogi.

“Mae fy nheulu wedi bod yn hollol wych, yn gefnogaeth enfawr,” meddai’n frwd. “Mae fy mrawd yn fy ngwylio yn ôl adre a fy mam – er nad oes ganddi unrhyw glem am bêl-droed! Mae’r gwahaniaeth amser yn ei gwneud ychydig yn anodd, felly mae’n rhywbeth y byddai’n ei wneud gyda nhw pan fydda i’n mynd yn ôl adre, sef gwylio’r gemau eto ar y we.”

Mae Natalie wedi bod yn dda am addasu erioed, ac mae’n dysgu sgiliau newydd gan ei chyd-ddyfarnwyr yn barhaus.

“Oes, mae gwers i’w dysgu bob dydd! Dw i’n gwrando ar bob adborth dw i’n ei gael ar ôl pob gêm. P’un a wnes i rhywbeth o’i le, neu fy mod wedi cael gêm wych – mae’r holl adborth yn wych i mi oherwydd dw i’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

“Ac mae’r balchder dw i’n teimlo wrth sefyll yng nghanol y cae pam mae’r gêm ar fin dechrau yn anhygoel. Mae’n gymysgedd o angerdd am y gêm, yn ogystal â gwerthfawrogi’r sefyllfa dw i ynddi.”

Felly mae’n hollol barod i gamu ar y cae yn Ninas Mecsico, ond beth am Gaerdydd yn 2019?

“Cymru yw e, fy ngwlad,” meddai â gwên ar ei hwyneb. “Dw i’n byw tua 45 munud ar y trên o Gaerdydd. Pan ofynnwyd i mi yn Oslo, yn 2017, beth ro’n i am ei weld gyda’r twrnamaint yma, fe ddywedais i fy mod am ei weld yn cael ei gynnal yng Nghymru.

“Mae Caerdydd wir yn mynd i fwynhau’r twrnamaint. Dw i’n meddwl y byddan nhw’n wych. Cafodd Cynghrair y Pencampwyr ei gynnal yno rai blynyddoedd yn ôl, ac fe gafodd y digwyddiad ei lwyfannu’n dda iawn. Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan, y Cyngor – mae pawb yn awyddus i’r digwyddiad fod yn llwyddiant mawr, a dw i’n gwybod y bydd yn llwyddiant.”

Ond y stori lwyddiannus orau un yw stori Natalie, a hi oedd awdures ei stori boblogaidd – ac mae’n gwybod lle daeth y tro yng nghynffon ei stori.

“Mae pêl-droed wedi fy ngwneud i’n unigolyn gwell. Dw i’n fwy hyderus yn fy ngallu fy hunan oherwydd mae angen i chi gael hyder yng nghanol y gêm. A dw i’n credu yn fy hunan. Do’n i ddim yn arfer credu mewn dim ro’n i’n ei wneud, ond nawr mae hynny wedi newid.

“Mae unrhyw beth yn bosib cyn belled â’ch bod chi’n credu yn eich hunan.”

Bydd 17eg Cwpan y Byd Digartref yn cael ei gynnal ym Mharc Bute Caerdydd rhwng 27 Gorffennaf a 3 Awst, gyda mwy na 500 o chwaraewyr yn cynrychioli dros 50 o wledydd.