100 o gyn-chwaraewyr Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref yn derbyn capiau swyddogol

Ddydd Mercher (24 Gorffennaf), derbyniodd 100 o gyn-chwaraewyr Cymru gapiau swyddogol am chwarae dros eu gwlad yng Nghwpan y Byd Digartref, a hynny mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd, cartref Canolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol Cymru.

Dyma’r tro cyntaf mewn 17 mlynedd yn hanes y twrnamaint rhyngwladol i chwaraewyr Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref gael eu cydnabod yn swyddogol am gynrychioli’u gwlad.

Yn bresennol yn y seremoni, a gynhaliwyd dridiau’n unig cyn i Gwpan y Byd Digartref ddechrau yng Nghaerdydd, roedd yr actor a’r ymgyrchydd o Gymru, Michael Sheen, a arweiniodd y cais i ddod â’r digwyddiad i Gymru.

Mae Keri Harris, Cyfarwyddwr Pêl-droed Stryd Cymru, wedi bod yn lobïo ers blynyddoedd i chwaraewyr Cwpan y Byd Digartref gael yr un gydnabyddiaeth â thimau rhyngwladol eraill Cymru.

Caiff carfannau Cymru ar gyfer Cwpan y Byd Digartref eu dewis gan Bêl-droed Stryd Cymru, y corff sydd wedi bod yn gyfrifol am gynnal rhaglenni i gynorthwyo cynhwysiant cymdeithasol drwy chwaraeon ers y twrnamaint cyntaf yn 2003.

Mae Keri Harris wedi rheoli’r tîm ers ei sefydlu, ac mae’n cynnal pedwar cynghrair gyda dros 40 o dimau ledled Cymru ar gyfer pobl sy’n profi digartrefedd ac allgáu cymdeithasol.

Meddai Keri, wrth sôn am bwysigrwydd y seremoni gapio: “Roedd heddiw’n ymwneud â balchder a pharch. Roedd gwylio’r chwaraewyr yma’n cael capiau rhyngwladol swyddogol am chwarae dros eu gwlad yn gwireddu breuddwyd. Mae wedi dod ymhell dros ei amser ac mae’r dynion a’r menywod arbennig yma’n haeddu eu clod. Ro’n i’n wen o glust i glust drwy gydol y seremoni.”

Wrth adleisio teimladau Keri, meddai Michael Sheen: “Am ddiwrnod! Mae Keri wedi ymgyrchu’n galed ers amser maith er mwyn gwireddu hyn, a phan glywson ni fod Cwpan y Byd Digartref yn dod i Gymru yn 2019, roedd sicrhau y byddai pawb oedd wedi ennill eu lle mewn carfan Cwpan y Byd Digartref yn cael y gydnabyddiaeth swyddogol maen nhw’n ei haeddu yn un o fy mhrif flaenoriaethau.

“Mae’n bosib bod y dynion a’r menywod yma wedi profi digartrefedd ac allgáu cymdeithasol ar ryw adeg yn eu bywydau, ac mae llawer ohonyn nhw’n dal i ddelio â’r problemau yma. Fodd bynnag, nid oes dianc o’r ffaith eu bod nhw, yn wahanol i’r rhan fwyaf ohonon ni, wedi cynrychioli eu gwlad ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae hynny’n rhywbeth y dylen nhw fod yn falch iawn ohono.”

Meddai Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Hoffai Cymdeithas Bêl-droed Cymru longyfarch yr holl chwaraewyr ar dderbyn eu capiau. Mae’n anrhydedd mawr cael cynrychioli eu gwlad yn y twrnamaint gwych yma. Mae pêl-droed yn fwy na gêm, ac rydyn ni’n siŵr y bydd hyn yn cael ei amlygu yn ystod y twrnamaint yma yng Nghaerdydd.”

Wrth siarad am beth mae’n ei olygu iddo, meddai Lee Jones, oedd yn gapten ar garfan Cymru yn y twrnamaint yn 2003 a 2004: “Wnes i erioed ddisgwyl y byswn i’n cael cap fy hunan, ond ro’n i bob amser yn breuddwydio y byddai chwaraewyr ar fy ôl i’n cael un. Roedd gweld yr holl chwaraewyr balch sydd wedi cynrychioli Cymru yn cael eu cydnabod heddiw yn brofiad emosiynol iawn, ac mae’n anhygoel gweld yr effaith mae’r twrnamaint wedi’i gael ar eu bywydau dros yr 16 mlynedd diwethaf.”